CILT Cymru: cefnogi addysgu a dysgu Ieithoedd Tramor Modern yng Nghymru
Mae rhaglen CILT Cymru yn seiliedig ar amcanion sydd yn cael eu hamlinellu yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru: Sicrhau bod ieithoedd yn cyfrif: Ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd a Llwybrau Dysgu 14–19
Y Cwricwlwm Cenedlaethol
Sefydlwyd y cwricwlwm ysgol ar gyfer dysgwyr 3-19 oed, a gafodd ei roi ar waith o fis Medi 2008, cwricwlwm ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n cwrdd ag anghenion y dysgwyr unigol ac, ar yr un pryd, yn cadw mewn cof anghenion ehangach Cymru.
Mae'r gofynion ar gyfer ieithoedd tramor modern yng Nghyfnod Allweddol 3 wedi eu gosod allan yn Ieithoedd tramor modern yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn cynnwys y rhaglenni astudio ar gyfer y cyfnod allweddol, ynghyd â thargedau cyrhaeddiad a disgrifiadau lefel. Mae’n cynnwys hefyd fframwaith anstatudol ar gyfer dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghyfnod Allweddol 2.
Ieithoedd tramor modern: Canllawiau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3 (ffeild pdf 3MB) ac mae dogfen sydd yn ymwneud â sgiliau a dysgu mewn ieithoedd tramor modern (ffeil pdf 165kb) hefyd ar gael.
Agenda addysg ehangach
Gwefan Y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion a gwybodaeth ychwanegol
Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd ar gyfer dysgu ôl-16 yng Nghymru
Cysylltiadau defnyddiol:
I weld cysylltiadau defnyddiol, pwyswch ar y botymau ar y dde.



