Y Peilot Cenedlaethol a'r darlun cyfredol ar gyfer ieithoedd tramor modern cyfredol yng Nghymru
Lansiwyd Cynllun Peilot Cenedlaethol Ieithoedd Tramor Modern (ITM) Cyfnod Allweddol 2 CILT Cymru fel un gainc o "Ieithoedd sy'n Cyfrif", y Strategaeth Ieithoedd Genedlaethol i Gymru (2002, adolygwyd yn 2008), a amlinellodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r gallu mewn ieithoedd yng Nghymru. Bu'r peilot hwn yn cefnogi datblygiad dysgu iaith dramor o oed cynnar o 2003-2009 a bu 118 o ysgolion cynradd ac 18 ysgol uwchradd mewn 18 AALl ar draws Cymru'n ymwneud ag ef.
Daeth gwerthusiad annibynnol o Gam 1 (2003 - 2006) y profion peilot i'r casgliad bod cyflwyno ITM yng Nghyfnod Allweddol 2 nid yn unig yn cyfoethogi'r cwricwlwm cynradd ac yn gwella trefniadau pontio ond ei fod yn cael "effaith bositif ar ddysgu TM yng Nghyfnod Allweddol 3". Comisiynwyd gwerthusiad pellach o Gam 2 (2006 - 2009) er mwyn cadw golwg ar ddisgyblion peilot hyd at Gyfnod Allweddol 3 ac i fonitro effaith y dechrau cynnar. Mae disgwyl y bydd y gwerthusiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Trwy gydol y peilot, a'r tu hwnt iddo, cafwyd cefnogaeth aruthrol o blaid y fenter gan rieni, disgyblion, staff a llywodraethwyr fel ei gilydd. Dywedodd ysgolion yn arbennig fod y fenter hon wedi "gwella cysylltiadau ar draws clystyrau a rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd a'i bod wedi gwella profiadau pontio ar gyfer disgyblion".
Ymrwymodd Llywodraeth Cymru ymhellach i ddarparu cyllid trwy'r Gronfa Ysgolion Gwell (CYG) o 2008-2011 er mwyn datblygu ITM cynradd ar sail anstatudol a bydd yn "edrych o'r newydd ar yr achos dros ddarpariaeth statudol y tro nesaf y caiff y cwricwlwm ysgolion ei adolygu. Bydd hyn yn caniatáu i benderfyniad gael ei wneud yng ngoleuni'r gwerthusiad terfynol o brofion peilot yr ysgolion cynradd a gofynion ehangach y cwricwlwm cynradd".
Defnyddiwch y fwydlen ar y chwith i ddarllen mwy am y Prosiect Peilot Cenedlaethol ITM yng CA2.
Darganfyddwch sut y gallwch chi / eich ysgol / AALl gymryd rhan yn adran "Dechrau'r Daith".



