Myfyrwyr yn siarad yr iaith gywir ar gyfer llwyddiant gyrfaol
03 Rhagfyr 2010

Mae myfyrwyr blwyddyn naw sy’n dewis eu hopsiynau yn cael eu hannog i edrych ar ieithoedd tramor modern mewn golau newydd.
Mae myfyrwyr yn dysgu bod sgiliau iaith yn gallu eu cynorthwyo nhw i ddatblygu ym mha bynnag faes gwaith sydd ganddynt ddiddordeb ynddo. Nod CGC Ieithoedd ar gyfer Busnes, a gafodd ei dreialu mewn 17 o ysgolion yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yw paratoi disgyblion ar gael gyrfaoedd llwyddiannus. Mae diwydiannau mor amrywiol â pheirianneg, y gyfraith, marchnata, y cyfryngau a TG angen ymgeiswyr sydd â sgiliau iaith ymarferol, yn enwedig mewn cyfnod pan fo niferoedd y disgyblion sy’n astudio ieithoedd ar lefel TGAU yn disgyn. Mwy (ffeil pdf 117kb)



