Datblygu llythrennedd ar draws ieithoedd
Gyda Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar Lythrennedd a'i rôl graidd yn Fframwaith Arolygu newydd ESTYN, yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio’r canllaw i ysgolion ar ddatblygu sgiliau llythrennedd ar draws ieithoedd.

I'w lawrlwytho, cliciwch isod:
http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/111017literacyen.pdf Saesneg
http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/111017literacycy.pdf Cymraeg
Mae "Cefnogi Llythrennedd Triphlyg. Dysgu iaith yng Nghyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3" yn ystyried datblygiadau yng Nghymru, gan gynnwys y sylw ar ddatblygu sgiliau a'r 'Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru', y Cwricwlwm Cenedlaethol diwygiedig (2008), prosiect peilot ieithoedd cynradd Cyfnod Allweddol 2, datblygiadau yn y Cyfnod Sylfaen a’r sylw unwaith eto ar lythrennedd drwy'r cynllun llythrennedd ar gyfer Cymru.
Mae'r canllawiau yn cefnogi athrawon ieithoedd sy’n gweithio gyda'i gilydd ar draws ieithoedd i geisio adeiladu ar brofiad y dysgwr o ieithoedd eraill a dysgu blaenorol, a chefnogi cynnydd dysgwyr ym mha bynnag ieithoedd maen nhw’n eu hastudio. Maent yn yn dangos sut gellir gwneud cysylltiadau i gefnogi gwell llythrennedd ym mhob iaith, ac yn amlygu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd ar draws Saesneg, Cymraeg, Cymraeg ail iaith ac ieithoedd tramor modern. Mae'n cynnwys syniadau ymarferol hefyd ar gyfer addysgu a dysgu, trwy astudiaethau achos o arfer da a geirfa gyffredin o dermau iaith.
Mae ysgolion wedi datblygu llawer yn y maes hwn ers cyhoeddi "Gwneud y Cysylltiad" (2003) a phrosiectau ymchwil weithredu cynnar yn ymwneud â llythrennedd triphlyg a ariannwyd gan CILT Cymru (2005-2007). Fodd bynnag, mae angen cydweithio ymhellach i sicrhau nad yw athrawon Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd tramor modern yn gweithio ar wahân, a’u bod yn manteisio ar y gwaith da sy'n cael ei wneud yn y tri maes pwnc o ran datblygu sgiliau llythrennedd disgyblion, yn ogystal â'r gwaith iaith sydd wedi cael ei wneud yn gynharach ar lefel cynradd.
I gyd-fynd â chyhoeddi'r canllaw newydd hwn, mae CILT Cymru yn noddi rhagor o waith ymchwil weithredu ar ddatblygu sgiliau llythrennedd ar draws ieithoedd. Bydd gwybodaeth am y prosiectau hyn a'r ysgolion sy'n cymryd rhan ar gael yn fuan.
Am ragor o gyngor, os gwelwch yn dda, cysylltwch â Nia Gwyn Jones, nia.jones@ciltcymru.org.uk neu ffôn: 029 2026 5405.



