Ffordd NEWYDD o gael hyfforddiant gan CILT Cymru
Cyfleoedd Hyfforddi Pwrpasol ar gyfer Athrawon Ieithoedd 2011 - 2012
Er mwyn rhoi mynediad mwy hyblyg i athrawon i ddatblygiad proffesiynol, mae CILT Cymru yn cynnig dewislen o gyfleoedd DPP mewn amryw o fformatau. Gall ysgolion neu grwpiau o ysgolion, AALlau neu gonsortia gael mynediad at hyfforddiant.
Gallwn ddarparu mewnbwn ar amryw o themâu, fel yr amlinellir isod. Mae gan bob thema gysylltiadau clir i’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ac/neu’r Cwestiynau Allweddol yn Fframwaith Archwiliad Estyn. Y chi sy’n penderfynu ar ba thema neu themâu yr hoffech hyfforddiant arno/arnynt a phryd, yn lle ac am ba mor hir.
Mae dewislen lawn wedi cael ei hanfon i ysgolion uwchradd. Gellir lawrlwytho’r ddewislen a’r ffurflen gais yma. Os hoffech ragor o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â Kristina Hedges, Rheolwr Rhaglen: Kristina.hedges@ciltcymru.org.uk
Ffôn: 029 2026 5406
Themâu Hyfforddi:
- Datblygu Cymuned Dysgu Proffesiynol sy’n canolbwyntio ar ITM
- Ieithoedd Tramor Modern Cynradd – adeiladu ar y cychwyn cynnar
- Datblygu sgiliau llythrennedd ar draws ieithoedd
- Beth sydd wedi digwydd i wrando? Ydy llafaredd yn golygu dim mwy o dapiau?
- Datblygu sgiliau meddwl
- Datblygu Asesu ar gyfer Dysgu
- Defnyddio ffilm yn yr ystafell ddosbarth ITM
- Defnyddio TGCh mewn ITM
- Asesiad dan Reolaeth TGAU - datblygu siaradwyr ac ysgrifenwyr hyderus
- Dechrau’r daith gydag unedau iaith CGC
- Arfer da wrth ddysgu unedau iaith CGC
- Defnyddio cysylltiadau rhyngwladol i wella dysgu iaith
- Addysgu Safon UG & Safon Uwch yn effeithiol
- Gyda chân yn fy nghynllun gwaith



