Amdanon ni
Beth yw CILT Cymru?
Y Ganolfan Genedlaethol ar Ieithoedd (CILT Cymru) yw'r ganolfan arbenigedd genedlaethol ar addysgu ieithoedd. Sefydlwyd CILT Cymru yn 2002 fel rhan o rwydwaith CILT, a rhoddwyd swyddogaeth allweddol iddi yn y gwaith o weithredu 'Ieithoedd Sy'n Cyfrif', Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Ieithoedd Tramor Modern. Mae swyddfa CILT Cymru yn CBAC, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd.
Beth yn union mae CILT Cymru'n ei wneud?
Prif amcanion CILT Cymru yw:-
* hybu mwy o allu cenedlaethol mewn ieithoedd
* cynorthwyo gwaith pawb sy'n ymwneud â dysgu ac addysgu
* ieithoedd ym mhob sector addysgol ac mewn busnes.
Pwy sy'n defnyddio CILT Cymru?
Mae gwasanaethau CILT Cymru ar gael i unrhyw un sy'n ymwneud ag addysgu ieithoedd:
* Athrawon ac athrawon dan hyfforddiant
* Darlithwyr a thiwtoriaid
* Cynghorwyr ac ymgynghorwyr ieithoedd
* Hyfforddwyr athrawon
* Arolygwyr
* Ymchwilwyr a myfyrwyr
* Prifathrawon, rhieni a llywodraethwyr
* Cyflogwyr
* Hyfforddwyr iaith fusnes
* Ymgynghorwyr gyrfaoedd
* Llyfrgellwyr
* Gwasanaethau a chyfleusterau CILT Cymru
* Rhaglen gynhwysfawr
Gwasanaethau a chyfleusterau CILT Cymru
* Rhaglen gynhwysfawr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer athrawon yng Nghymru, ynghyd â mynediad i gyrsiau yn y DU a thramor
* Canolfan adnoddau i alw ynddi, yn cynnwys cronfa o ddeunyddiau ym mhob cyfrwng, sy'n cael ei diweddaru'n gyson
* Gwasanaeth ymholiadau - cysylltwch â ni'n bersonol, un ai drwy'r post, dros y ffôn neu drwy e-bost - yn Gymraeg neu yn Saesneg
* Fforymau trafod trwy E-bost, yn cynnwys Fforwm CILT Cymru
Cyhoeddiadau: nifer eang o deitlau gan ymarferwyr arbenigol ac ymchwilwyr
* Newyddion CILT Cymru - bwletin tymhorol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgaredd ITM
* Prosiectau ymchwil-weithredol fel prosiect peilot Cyfnod Allweddol 2 y Cynulliad Cenedlaethol
* Cymorth i ysgolion ac AALl - Cytundeb CILT Cymru
* Cymorth i adrannau ieithoedd Addysg Uwch mewn partneriaeth â'r UK Subject Centre for Languages Linguistics and Area Studies
* Ieithoedd a byd gwaith
* Sgyrsiau 'Ieithoedd a Gyrfaoedd' yn rhad ac am ddim i ddisgyblion ysgol



